Archive

août 6, 2018

Browsing

Ar adeg pan fo llawer o’r gwleidyddion proffesiynol yn siarad am y cytundeb asgell-dde Ffrengig neu am y Rhanbarth Ewropeaidd yn cysylltu Cymru a Llydaw, mae ymgyrchwyr Undeb Democrataidd Llydaw am ein hatgoffa y bydd yn rhaid, yn hwyr neu’n hwyrach, roi llais i bobl Llydaw. Dyma paham y mae’r UDB yn eich gwahodd i ddod i an Oraint (Lorient) i wrthdystio ar 11 Awst, 2018, yn ystod cyfarfod blynyddol y Celtiaid, sydd eleni yn rhoi sylw i Gymru. Y refferendwm ar ddatganoli fydd un o’r pethau pennaf a gaiff sylw yn y gwrthdystiad yn Naoned (Nantes) ar ddiwedd mis Medi. Dewch i an Oriant i brotestio !

AILUNO LLYDAW, Y LLYDAWEG … GWNAWN Y DEWIS YN LLYDAW ! YMGYNNULL AR 11 AWST YN AN ORIANT (LORIENT) ADEG GŴYL Y CELTIAID !

Yn dilyn y brotest o blaid y Llydaweg a gynhaliwyd pan agorwyd Gŵyl yr Erer Kozh, ac wrth ddisgwyl am yr un yn Naoned ar 29 Medi, galwn arnoch i orymdeithio o Sgwâr Neuadd y Ddinas, an Oriant, ar 11 Awst am 3pm.

Eleni mae Gŵyl Ryng-Geltaidd an Oriant wedi estyn gwahoddiad i Gymru. Mae Cymru yn wlad â senedd lle y mae grymoedd iaith, yn wlad sydd wedi rhoi statws swyddogol i’r Gymraeg, ac yn wlad lle y mae’r iaith yn yr ysgolion. Rhoddwyd cyfle i’r Cymry i ddweud eu barn ar ddatganoli mewn refferendwm yn 1997, ac yna yn 2011. Gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn eu siambr bleidleisio, sef y Senedd, bleidleisio mewn amryw feysydd, rhai a benderfynwyd gan senedd Prydain Fawr. Mae tuag uagin o feysydd lle y mae’r Cymry’n gwneud eu penderfyniadau eu hunain; yn eu plith mae tai, iechyd, twristiaeth, cymorth cymdeithasol a chludiant. Mae Llydaw ymhell ar ei hôl gyda golwg ar rymoedd o’r fath. Rydym am fanteisio ar Ŵyl Ryng-Geltaidd an Oriant, sydd yn fan cyfarfod rhyngwladol, i dynnu sylw at y diffyg sofraniaeth amlwg yn Llydaw. Rydym am ddatgan ei bod yn rhaid gofyn barn pobl Llydaw am ei thiriogaeth ac am y grymoedd y gallai Llydaw ei hun fod yn gyfrifol amdanynt, rhai’n ymwneud â pholisïau iaith yn eu plith. Fel y dengys ymgyrch ysgolion Diwan i gael statws cyfreithiol lleol dilys, neu agwedd negyddol gwladwriaeth Ffrainc at yr hawl i ysgrifennu ein henwau cyntaf yn y ffordd gywir, neu benderfyniad yr awdurdodau addysg i’n rhwystro rhag sefyll arholiadau’r fagloriaeth a diploma’r brevet yn Llydaweg, ymddengys mai brwydro yn unig yw ein dyfodol. I gloi, galwn ar bawb sydd yn cytuno â ni i drefnu mwy o achlysuron fel yr un yn yr haf yn an Oriant, ac i fynd, un ac oll, i Naoned ar 29 Medi, er mwyn galw ag un llais, ac yn groch, am ein hawl i ddewis ac i gael Llydaw wedi ei hailuno. Erfyniwn ar fynychwyr yr Ŵyl, y cerddorion, y dawnswyr, ein cyfeillion o Gernyw, o Galisia, o Astwrias, o Gymru, o Iwerddon, o’r Alban ac o Ynys Manaw, i ymuno â ni yn y digwyddiad hwn. Bydd croeso i deuluoedd i ddod i ddatgan â gwên fod yn yr ŵyl yn dda ond bod yr ymgyrch yn dda hefyd! Llydaweg swyddogol o Frest hyd Klison (Clisson) ! Fel yng Nghymru, dewiswn ein dyfodol !